Twitter
/Cyflwyniad i Gennau

Cyflwyniad i Gennau


Ceir cennau bron ym mhobman, mewn trefi yn ogystal ag yng nghefn gwlad ac ar hyd yr arfordir.

Mae pob cen yn cynnwys dau (yn anaml tri) math cwbl wahanol o organebau, sef ffwng (y mycobiont) ac un neu ddau bartner ffotosyntheseiddio (y ffotobiontau), sydd naill ai’n alga gwyrdd neu’n syanobacteriwm.

Mae’r ffotobiont wedi’i amgylchynu’n llwyr gan y ffwng i ffurfio organeb – y cen – sy’n edrych yn wahanol iawn i bob partner pan fyddant yn byw ar wahân.

Mae’r algâu yn cael eu diogelu rhag dysychu a golau llachar yr haul ac yn eu tro maent yn rhoi carbohydradau i’r ffwng na all eu cynhyrchu ei hun.

Ym Mhrydain mae o leiaf 1,800 o rywogaethau, y ceir 1,300 ohonynt yng Nghymru.

Mae hyn yn cyfateb i gymaint â 71% o gyfanswm Prydain mewn 11% o’i harwynebedd.

Mae mwy na 71 o wahanol fathau o gen wedi’u nodi o arddangosfa Creigiau’r Oesoedd.

Mae rhai cennau yn ddangosyddion ansawdd aer ardderchog tra bod eraill yn cynnwys cemegion unigryw a all fod yn ddefnyddiol i ni yn y dyfodol.

Maint a Siâp

Gelwir corff y cen yn thalws. Ceir tri phrif fath o gennau.

Mae cennau ‘cramennog’ yn tyfu fel cramen denau na ellir ei thynnu o’r swbstrad heb ei niweidio.

  • Mae gan gennau ‘deiliog’ adeiledd llabedog, deiliog bron, a gellir eu tynnu’n hawdd o’r arwyneb lle maent yn tyfu.
  • Mae cennau ‘llwynaidd’ yn ganghennog ac yn brysglog.
  • Mae plât bach a elwir yn ludafael yn eu cysylltu â’r arwyneb.

Mae cennau cramennog a deiliog yn tyfu’n rheiddiol o eginyn bach i ffurfio darn crwn, fwy neu lai, neu thalws.

Collir y siâp crwn yn aml dros amser wrth i rannau o’r cen gael eu bwyta gan anifeiliaid di-asgwrn-cefn, cyfarfod â chen cyfagos neu ddod ar draws ardal anaddas o gynefin.

Mae cennau yn tyfu’n araf.

Mae cennau cramennog yn arbennig yn tyfu’n araf iawn.

Mae llawer yn tyfu llai na 0.5mm y flwyddyn, gyda’r parth tyfu wedi’i gyfyngu i ymyl y gytref.

Yn y pen draw, gall rhai cennau gyrraedd maint plât cinio, er bod y rhan fwyaf yn llawer llai, ychydig o gentimetrau neu lai ar draws.

Atgynhyrchu

Mae cennau yn atgynhyrchu ac yn ymledu mewn sawl ffordd wahanol. Fel ffyngau eraill, nad ydynt yn gennau, gallant atgynhyrchu’n rhywiol drwy sborau.

Cynhyrchir y sborau hyn mewn cyrff hadol siâp disg (apothecia) neu siâp fflasg (perithecia) neu gyrff hadol hir sy’n debyg i agen (lirellae).

Caiff sborau eu lledaenu gan y gwynt, glaw neu anifeiliaid.

Er mwyn tyfu’n unigolyn newydd, nid yn unig y mae’n rhaid i sbôr lanio mewn man addas, ond hefyd mae’n rhaid iddo gyfarfod â’r partner ffotosyntheseiddio cywir yn fuan ar ôl egino.

Ni all ffwng sy’n gen oroesi am amser hir ar ei ben ei hun.

Mae llawer o gennau hefyd yn atgynhyrchu’n llystyfol.

Mae darnau bach (soredia neu isidia) yn ffurfio ar arwyneb y cen.

Mae’r darnau bach hyn yn cynnwys hyffâu ffyngaidd a chelloedd ffotobiont.

Gellir eu datgysylltu’n hawdd o’r rhiant-gen ac, ar yr amod y byddant yn glanio ar arwyneb addas, gallant dyfu’n gennau newydd.

Ble mae cennau yn tyfu?

Gall cennau dyfu a chytrefu amrywiaeth eang o swbstradau naturiol ac o waith dyn gan gynnwys coed, creigiau, pridd, pren wedi’i lifio a metel.

Gallant oroesi yn nhwndra’r Arctig, ar gopaon mynyddoedd, mewn anialdiroedd poeth a choedwigoedd trofannol.

Fe’u ceir ar hyd arfordiroedd creigiog, rhai ar greigiau a hyd yn oed ar gregyn llong ar neu islaw’r marc penllanw.

Er y gall rhai rhywogaethau o gen dyfu ar amrywiaeth eang o arwynebau, mae eraill wedi’u cyfyngu i gynefinoedd penodol.

Mae cennau creigdrig yn tyfu ar greigiau a sylweddau o waith dyn sy’n debyg i graig megis concrid.

Mae creigiau sy’n digwydd yn naturiol wedi’u ffurfio drwy gydol hanes y Ddaear ac maent yn cynnwys llawer o gemegion, sy’n rhoi ei nodweddion ei hun i bob math o graig.

Mae rhai creigiau, megis gwenithfaen, yn asidaidd yn gemegol, tra bod calchfaen a sialc yn alcalïaidd, neu’n fasig, o ran adwaith.

Mae gan arddangosfa Creigiau’r Oesoedd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru enghreifftiau o greigiau a gymerwyd o bob rhan o Gymru, o’r Cyfnod Cyn-Gambriaidd i’r Cyfnod Carbonifferaidd.

Mae cennau wedi cytrefu pob un o’r creigiau hyn, ond mae gan bob math o graig ei phlanhigion cennog nodweddiadol ei hun.

Felly, bydd astudio cennau creigdrig yn dweud llawer wrthym am y math o graig.

Mae arddangosfa Creigiau’r Oesoedd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gyfle da i weld amrywiaeth o wahanol gennau ar wahanol fathau o greigiau mewn un man a dysgu am y gydberthynas rhwng y creigiau a’r cennau sy’n tyfu arnynt.

Mae’n debyg nad oedd gan lawer o’r creigiau unrhyw gennau arnynt pan gawsant eu gosod yn yr Ardd Fotaneg.

Ymddengys fod eraill eisoes wedi’u gorchuddio â chennau y mae’n debyg eu bod yn dal i addasu i fywyd mewn ardal newydd.

Lawrlwythwch adroddiad o arolwg ar y cen ar y creigiau hyn (PDF), gyda gwybodaeth am bob craig a ddangosir.


Slate roof with lichen
Cen yn tyfu ar do llechen

Parmelia saxatilis: crottle
Fflurgen Parmelia saxatilis

Moss on Devonian Red Sandstone
Mwsogl ar Dywodfaen Coch Defonaidd

Xanthoria parietina
Xanthoria parietina

lichens on spotted dolerite
Cen ar ddolerit smotiog

The chewing gum lichen
Cen ar gwm cnoi

Lichen on top of the large, standing limestone block.
Cen ar ben y chwerfan calchfaen sefydlog mawr

Lichens on dolomite
Cen ar ddolomit